Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 17
Tachwedd 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(60 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(15 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: TATA Steel
(45 munud)
4 Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth newydd i Gymru
(45 munud)
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Model Buddsoddi Cydfuddiannol
(45 munud)
6 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Nodi Wythnos Rhyng-ffydd
(45 munud)
7 Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Eithrio Treuliau Etholiad) (Cymru) (Diwygio) 2020
(15 munud)
NDM7468 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Eithrio Treuliau Etholiad) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Hydref 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
8 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus)
(15 munud)
NDM7476 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Mai 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) (Saesneg yn unig)
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Llythyr gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau at y Pwyllgor Busnes (isod)
9 Dadl: Ail Gyllideb Atodol 2020-21
(30 munud)
NDM7443 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Ail Gyllideb Atodol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Mawrth, 20 Hydref 2020.
Troednodyn:
Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
(i) y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;
(ii) yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
(iii) cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;
(iv) cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig;
(v) cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c); a
(vi) manylion am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a ddarparwyd yn unol â Rheolau Sefydlog 20.7 – 20.7B ar gyfer y gyllideb ddrafft, fel y nodwyd yn y protocol y cytunwyd arno o dan Reol Sefydlog 20.1A.
Mae'r wybodaeth ychwanegol isod wedi'i darparu i'r Aelodau:
- nodyn yn egluro'r prif wahaniaethau rhwng y cynllun hwn a'r rhai blaenorol.
Dogfennau Ategol
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 10-11 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
(30 munud)
10 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020
NDM7470 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Tachwedd 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor
11 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020
NDM7469 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2020.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor
12 Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020
(15 munud)
NDM7475 Jeremy Miles (Castell-nedd)
Cynnig bod y Senedd yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn gwneud Rheoliadau Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â’r UE) 2020, yn unol â'r drafft a osodwyd (Saesneg yn unig) yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Tachwedd 2020.
Gosodwyd y Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Tachwedd 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 30A.2.
Dogfennau Ategol
Datganiad Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
13 Dadl: Adroddiad y Grwp Cynllunio Etholiadau
(45 munud)
NDM7467 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Grŵp Cynllunio Etholiadau.
Adroddiad y Grŵp Cynllunio Etholiadau
14 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 18 Tachwedd 2020